25. Oherwydd yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, am y dirgelwch hwn (bydd hynny'n eich cadw rhag bod yn ddoeth yn eich tyb eich hunain), fod caledwch rhannol wedi syrthio ar Israel, hyd nes y daw'r Cenhedloedd i mewn yn eu cyflawn rif.
26. Pan ddigwydd hynny, caiff Israel i gyd ei hachub. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Daw'r Gwaredydd o Seion,a throi pob annuwioldeb oddi wrth Jacob;
27. a dyma'r cyfamod a wnaf fi â hwy,pan gymeraf ymaith eu pechodau.”
28. O safbwynt yr Efengyl, gelynion Duw ydynt, ond y mae hynny'n fantais i chwi. O safbwynt eu hethol gan Dduw, y maent yn annwyl ganddo, ond y maent felly o achos yr hynafiaid.
29. Oherwydd nid oes tynnu'n ôl ar roddion graslon Duw, a'i alwad ef.
30. Buoch chwi unwaith yn anufudd i Dduw, ond yn awr, o ganlyniad i'w hanufudd-dod hwy, yr ydych wedi cael trugaredd.
31. Yn yr un modd, o ganlyniad i'r drugaredd a gawsoch chwi, y maent hwy hefyd wedi anufuddhau yn awr, fel mai derbyn trugaredd a wnânt hwythau.
32. Y mae Duw wedi cloi pawb yng ngharchar anufudd-dod, er mwyn gwneud pawb yn wrthrychau ei drugaredd.
33. O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd!
34. Oherwydd,“Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd?Pwy a fu'n ei gynghori ef?
35. Pwy a achubodd y blaen arno â rhodd,i gael rhodd yn ôl ganddo?”