Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 1:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid.

17. Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o'r dechrau i'r diwedd, fel y mae'n ysgrifenedig: “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.”

18. Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o'r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 1