Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 4:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

8. Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.

9. Y pethau yr ydych wedi eu dysgu a'u derbyn, eu clywed a'u gweled, ynof fi, gwnewch y rhain; a bydd Duw'r tangnefedd gyda chwi.

10. Y mae'n llawenydd mawr yn yr Arglwydd i mi, fod eich gofal amdanaf yn awr o'r diwedd wedi blaguro eto. O ran hynny, yr oedd y gofal gennych; yr amser cyfaddas oedd yn eisiau.

11. Nid fy mod yn dweud hyn am fod arnaf angen, oherwydd yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau.

12. Gwn sut i gymryd fy narostwng, a gwn hefyd sut i fod uwchben fy nigon. Ym mhob rhyw amgylchiadau, yr wyf wedi dysgu'r gyfrinach sut i ddygymod, boed â llawnder neu newyn, â helaethrwydd neu brinder.

13. Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.

14. Er hynny, da y gwnaethoch wrth rannu â mi fy ngorthrymder.

15. Yr ydych chwithau, Philipiaid, yn gwybod, pan euthum allan o Facedonia ar gychwyn y genhadaeth, na fu gan yr un eglwys, ar wahân i chwi yn unig, ran gyda mi mewn rhoi a derbyn;

16. oherwydd yn Thesalonica hyd yn oed anfonasoch unwaith, ac eilwaith, i gyfarfod â'm hangen.

17. Nid ceisio'r rhodd yr wyf, ond ceisio'r elw sy'n cynyddu i'ch cyfrif chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 4