Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 3:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.

15. Pob un ohonom, felly, sydd ymhlith y rhai aeddfed, dyma sut y dylai feddwl. Ond os ydych o wahanol feddwl am rywbeth, fe ddatguddia Duw hyn hefyd ichwi.

16. Ond gadewch inni ymddwyn yn unol â'r safon yr ydym wedi ei chyrraedd.

17. Byddwch yn gydefelychwyr ohonof fi, gyfeillion, a daliwch sylw ar y rhai sy'n byw yn ôl yr esiampl sydd gennych ynom ni.

18. Oherwydd y mae llawer, yr wyf yn fynych wedi sôn wrthych amdanynt, ac yr wyf yn sôn eto yn awr gan wylo, sydd o ran eu ffordd o fyw yn elynion croes Crist.

19. Distryw yw eu diwedd, y bol yw eu duw, ac yn eu cywilydd y mae eu gogoniant; pobl â'u bryd ar bethau daearol ydynt.

20. Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddi yno hefyd yr ydym yn disgwyl Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 3