1. Bellach, gyfeillion, llawenhewch yn yr Arglwydd. Nid yw ysgrifennu'r un pethau atoch yn drafferth i mi, ac i chwi y mae'n ddiogelwch.
2. Gwyliwch y cŵn, gwyliwch y drwgweithredwyr, gwyliwch y rhai nad ydynt ond yn gwaedu'r cnawd.
3. Oherwydd ni yw'r rhai gwir enwaededig, ni sy'n addoli trwy Ysbryd Duw, ac yn ymfalchïo yng Nghrist Iesu heb ymddiried yn y cnawd—
4. er bod gennyf, o'm rhan fy hun, le i ymddiried yn y cnawd hefyd. Os oes rhywun arall yn tybio fod ganddo le i ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi'n fwy felly:
5. wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o hil Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o dras Hebrewyr; yn ôl y Gyfraith, yn Pharisead;
6. o ran sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sy'n perthyn i'r Gyfraith, yn ddi-fai.
7. Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist.
8. A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o'i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist