Hen Destament

Testament Newydd

Philemon 1:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser wrth gofio amdanat yn fy ngweddïau,

5. oherwydd fy mod yn clywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint.

6. Yr wyf yn deisyf y bydd y ffydd, sy'n gyffredin i ti a ninnau, yn gyfrwng effeithiol i ddyfnhau dealltwriaeth o'r holl ddaioni sy'n eiddo i ni yng Nghrist.

7. Oherwydd cefais lawer o lawenydd a symbyliad trwy dy gariad, gan fod calonnau'r saint wedi eu llonni drwot ti, fy mrawd.

8. Gan hynny, er bod gennyf berffaith ryddid yng Nghrist i roi gorchymyn i ti ynglŷn â'th ddyletswydd,

9. yr wyf yn hytrach, ar sail cariad, yn apelio atat. Ie, myfi, Paul, a mi'n llysgennad Crist Iesu, ac yn awr hefyd yn garcharor drosto,

10. apelio yr wyf atat ar ran fy mhlentyn, Onesimus, un y deuthum yn dad iddo yn y carchar.

11. Bu ef gynt yn ddi-fudd i ti, ond yn awr y mae'n fuddiol iawn i ti ac i minnau.

12. Yr wyf yn ei anfon yn ôl atat, ac yntau bellach yn rhan ohonof fi.

13. Mi hoffwn ei gadw gyda mi, er mwyn iddo weini arnaf yn dy le di tra byddaf yng ngharchar o achos yr Efengyl.

14. Ond ni fynnwn wneud dim heb dy gydsyniad di, rhag i'th garedigrwydd fod o orfod, nid o wirfodd.

Darllenwch bennod gyflawn Philemon 1