Hen Destament

Testament Newydd

Philemon 1:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. apelio yr wyf atat ar ran fy mhlentyn, Onesimus, un y deuthum yn dad iddo yn y carchar.

11. Bu ef gynt yn ddi-fudd i ti, ond yn awr y mae'n fuddiol iawn i ti ac i minnau.

12. Yr wyf yn ei anfon yn ôl atat, ac yntau bellach yn rhan ohonof fi.

13. Mi hoffwn ei gadw gyda mi, er mwyn iddo weini arnaf yn dy le di tra byddaf yng ngharchar o achos yr Efengyl.

14. Ond ni fynnwn wneud dim heb dy gydsyniad di, rhag i'th garedigrwydd fod o orfod, nid o wirfodd.

15. Efallai, yn wir, mai dyma'r rheswm iddo gael ei wahanu oddi wrthyt dros dro, er mwyn iti ei dderbyn yn ôl am byth,

16. nid fel caethwas mwyach ond fel un sy'n fwy na chaethwas, yn frawd annwyl—annwyl iawn i mi, ond anwylach fyth i ti, fel dyn ac fel Cristion.

17. Os wyt, felly, yn fy ystyried i yn gymar, derbyn ef fel pe bait yn fy nerbyn i.

18. Os gwnaeth unrhyw gam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf fi.

19. Yr wyf fi, Paul, yn ysgrifennu â'm llaw fy hun: fe dalaf fi yn ôl, a hynny heb sôn dy fod ti'n ddyledus i mi hyd yn oed amdanat dy hun.

20. Ie, frawd, mi fynnwn gael ffafr gennyt ti yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.

21. Yr wyf yn ysgrifennu atat mewn sicrwydd y byddi'n ufuddhau; gwn y byddi'n gwneud mwy nag yr wyf yn ei ofyn.

Darllenwch bennod gyflawn Philemon 1