6. Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear”—yna meddai wrth y claf, “Cod, a chymer dy wely a dos adref.”
7. A chododd ac aeth ymaith i'w gartref.
8. Pan welodd y tyrfaoedd hyn daeth ofn arnynt a rhoesant ogoniant i Dduw, yr hwn a roddodd y fath awdurdod i ddynion.
9. Wrth fynd heibio oddi yno gwelodd Iesu ddyn a elwid Mathew yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef.
10. Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, a dyma lawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn dod ac yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion.
11. A phan welodd y Phariseaid, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae eich athro yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?”
12. Clywodd Iesu, a dywedodd, “Nid ar y cryfion ond ar y cleifion y mae angen meddyg.
13. Ond ewch a dysgwch beth yw ystyr hyn, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’. Oherwydd i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
14. Yna daeth disgyblion Ioan ato a dweud, “Pam yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio llawer, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?”
15. Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant.
16. Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; oherwydd fe dynn y clwt wrth y dilledyn, ac fe â'r rhwyg yn waeth.
17. Ni fydd pobl chwaith yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwnânt, fe rwygir y crwyn, fe gollir y gwin a difethir y crwyn. Ond byddant yn tywallt gwin newydd i grwyn newydd, ac fe gedwir y ddau.”
18. Tra oedd ef yn siarad fel hyn â hwy, dyma ryw lywodraethwr yn dod ato ac ymgrymu iddo a dweud, “Y mae fy merch newydd farw; ond tyrd a rho dy law arni, ac fe fydd fyw.”