Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 9:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.”

31. Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.

32. Fel yr oeddent yn mynd ymaith, dyma rywrai'n dwyn ato ddyn mud wedi ei feddiannu gan gythraul.

33. Wedi i'r cythraul gael ei fwrw allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y tyrfaoedd gan ddweud, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 9