Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 9:21-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Oherwydd yr oedd hi wedi dweud ynddi ei hun, “Dim ond imi gyffwrdd â'i fantell, fe gaf fy iacháu.”

22. A throes Iesu, a gwelodd hi, ac meddai, “Cod dy galon, fy merch; y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac iachawyd y wraig o'r munud hwnnw.

23. Pan ddaeth Iesu i dŷ'r llywodraethwr, a gweld y pibyddion a'r dyrfa mewn cynnwrf,

24. dywedodd, “Ewch ymaith, oherwydd nid yw'r eneth wedi marw; cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben.

25. Ac wedi i'r dyrfa gael ei gyrru allan, aeth ef i mewn a gafael yn ei llaw, a chododd yr eneth.

26. Ac aeth yr hanes am hyn allan i'r holl ardal honno.

27. Wrth i Iesu fynd oddi yno dilynodd dau ddyn dall ef gan weiddi, “Trugarha wrthym ni, Fab Dafydd.”

28. Wedi iddo ddod i'r tŷ daeth y deillion ato, a gofynnodd Iesu iddynt, “A ydych yn credu y gallaf wneud hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym, syr.”

29. Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.”

30. Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.”

31. Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.

32. Fel yr oeddent yn mynd ymaith, dyma rywrai'n dwyn ato ddyn mud wedi ei feddiannu gan gythraul.

33. Wedi i'r cythraul gael ei fwrw allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y tyrfaoedd gan ddweud, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.”

34. Ond dywedodd y Phariseaid, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 9