Mathew 9:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
1. Aeth Iesu i mewn i gwch a chroesi'r môr a dod i'w dref ei hun.
2. A dyma hwy'n dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau.”