30. Cryn bellter oddi wrthynt yr oedd cenfaint fawr o foch yn pori.
31. Ymbiliodd y cythreuliaid arno, “Os wyt yn ein bwrw ni allan, anfon ni i'r genfaint moch.”
32. Meddai ef wrthynt, “Ewch.” Ac fe aethant allan o'r dynion a mynd i mewn i'r moch. A dyma'r genfaint i gyd yn rhuthro dros y dibyn i'r môr, a threngi yn y dyfroedd.
33. Ffodd eu bugeiliaid, a mynd am y dref i adrodd yr holl hanes, a'r hyn oedd wedi digwydd i'r dynion a fu ym meddiant cythreuliaid.
34. A dyma'r holl dref yn mynd allan i gyfarfod â Iesu, ac wedi ei weld, yn erfyn arno symud o'u gororau.