Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 8:26-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn, chwi o ychydig ffydd?” Yna cododd a cheryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr.

27. Synnodd y bobl a dweud, “Pa fath ddyn yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r môr yn ufuddhau iddo.”

28. Wedi iddo fynd i'r ochr draw, i wlad y Gadareniaid, daeth i'w gyfarfod ddau ddyn oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, yn dod allan o blith y beddau; yr oeddent mor ffyrnig fel na allai neb fynd heibio'r ffordd honno.

29. A dyma hwy'n gweiddi, “Beth sydd a fynni di â ni, Fab Duw? A ddaethost yma cyn yr amser i'n poenydio ni?”

30. Cryn bellter oddi wrthynt yr oedd cenfaint fawr o foch yn pori.

31. Ymbiliodd y cythreuliaid arno, “Os wyt yn ein bwrw ni allan, anfon ni i'r genfaint moch.”

32. Meddai ef wrthynt, “Ewch.” Ac fe aethant allan o'r dynion a mynd i mewn i'r moch. A dyma'r genfaint i gyd yn rhuthro dros y dibyn i'r môr, a threngi yn y dyfroedd.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 8