3. “Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd,oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
4. Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru,oherwydd cânt hwy eu cysuro.
5. Gwyn eu byd y rhai addfwyn,oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.
6. Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder,oherwydd cânt hwy eu digon.
7. Gwyn eu byd y rhai trugarog,oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.
8. Gwyn eu byd y rhai pur eu calon,oherwydd cânt hwy weld Duw.
9. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr,oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.
10. Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder,oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
11. “Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.
12. Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.
13. “Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed.
14. Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn.
15. Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ.
16. Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.