Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 3:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. A pheidiwch â meddwl dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.

10. Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.

11. Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr i edifeirwch; ond y mae'r hwn sydd yn dod ar f'ôl i yn gryfach na mi, un nad wyf fi'n deilwng i gario'i sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân.

12. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, a bydd yn nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac yn casglu ei rawn i'r ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.”

13. Yna daeth Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan i'w fedyddio ganddo.

14. Ceisiodd Ioan ei rwystro, gan ddweud, “Myfi sydd ag angen fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti yn dod ataf fi?”

15. Meddai Iesu wrtho, “Gad i hyn fod yn awr, oherwydd fel hyn y mae'n weddus i ni gyflawni popeth y mae cyfiawnder yn ei ofyn.” Yna gadodd Ioan iddo ddod.

16. Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r dŵr, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno.

17. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 3