Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 3:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu'r genadwri hon yn anialwch Jwdea:

2. “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”

3. Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd:“Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo.’ ”

4. Yr oedd dillad Ioan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.

5. Yr oedd trigolion Jerwsalem a Jwdea i gyd, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen,

6. yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

7. A phan welodd Ioan lawer o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i'w bedyddio ganddo, dywedodd wrthynt: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?

8. Dygwch ffrwyth gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch.

9. A pheidiwch â meddwl dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 3