Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu'r genadwri hon yn anialwch Jwdea:

2. “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”

3. Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd:“Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo.’ ”

4. Yr oedd dillad Ioan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 3