Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 25:27-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio.

28. Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i'r un a chanddo ddeg cod.

29. Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.

30. A bwriwch y gwas diwerth i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’

31. “Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant.

32. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr,

33. ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith.

34. Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, ‘Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd.

35. Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref;

36. bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.’

37. Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti?

38. A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat?

39. Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi?’

40. A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’

41. “Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, ‘Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tân tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion.

42. Bûm yn newynog ac ni roesoch fwyd imi, bûm yn sychedig ac ni roesoch ddiod imi;

43. bûm yn ddieithr ac ni chymerasoch fi i'ch cartref, yn noeth ac ni roesoch ddillad amdanaf, yn glaf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch â mi.’

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 25