Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 23:22-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r nef yn tyngu i orsedd Duw ac i'r hwn sy'n eistedd arni.

23. “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys ac anis a chwmin, ond gadawsoch heibio bethau trymach y Gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, heb adael heibio'r lleill.

24. Arweinwyr dall! Yr ydych yn hidlo'r gwybedyn ac yn llyncu'r camel.

25. “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond y tu mewn y maent yn llawn trachwant a hunanfoddhad.

26. Y Pharisead dall, glanha'n gyntaf y tu mewn i'r cwpan, fel y bydd y tu allan iddo hefyd yn lân.

27. “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn debyg i feddau wedi eu gwyngalchu, sydd o'r tu allan yn ymddangos yn hardd, ond y tu mewn y maent yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid.

28. Felly hefyd yn allanol yr ydych chwithau yn ymddangos i bobl yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.

29. “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi ac yn addurno beddfeini'r rhai cyfiawn,

30. ac yn dweud, ‘Pe baem ni'n byw yn nyddiau ein hynafiaid, ni fyddem wedi ymuno gyda hwy i dywallt gwaed y proffwydi.’

31. Felly yr ydych yn tystio yn eich erbyn eich hunain eich bod yn blant i'r rhai a lofruddiodd y proffwydi.

32. Ewch chwithau ymlaen i orffen yr hyn a ddechreuodd eich hynafiaid.

33. Chwi seirff ac epil gwiberod, sut y dihangwch rhag barn uffern?

34. Am hynny dyma fi'n anfon atoch broffwydi a rhai doeth a rhai dysgedig; byddwch yn lladd ac yn croeshoelio rhai ohonynt, ac yn fflangellu eraill yn eich synagogau, a'u herlid o un dref i'r llall.

35. Felly, ar eich pen chwi y bydd yr holl waed diniwed a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd at waed Sechareia fab Beracheia, a lofruddiasoch rhwng y cysegr a'r allor.

36. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ar ben y genhedlaeth hon y bydd yr holl bethau hyn.

37. “Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.

38. Wele, y mae eich tŷ yn cael ei adael yn anghyfannedd.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 23