29. Atebodd Iesu hwy, “Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw.
30. Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef.
31. Ond ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw,
32. ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw.”
33. A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.
34. Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.
35. Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith,
36. “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?”
37. Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’
38. Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf.
39. Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’
40. Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.”
41. Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt,
42. “Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho.