Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 20:9-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un.

10. A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd.

11. Ac wedi eu cael dechreusant rwgnach yn erbyn y perchen tŷ

12. gan ddweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal â ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.’

13. Ond atebodd y meistr: ‘Gyfaill,’ meddai wrth un ohonynt, ‘nid wyf yn gwneud cam â thi. Onid am un darn arian y cytunaist â mi?

14. Cymer yr hyn sydd i ti a dos ymaith. Rwy'n dewis rhoi i'r olaf yma fel i tithau.

15. Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel rwy'n dewis â'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni?

16. Felly bydd y rhai olaf yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf.’ ”

17. Wrth fynd i fyny i Jerwsalem cymerodd Iesu'r deuddeg disgybl ar wahân, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt,

18. “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth,

19. a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd i'w watwar a'i fflangellu a'i groeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe'i cyfodir.”

20. Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan ymgrymu a gofyn ffafr ganddo.

21. Meddai ef wrthi, “Beth a fynni?” Atebodd, “Gorchymyn fod i'm dau fab hyn gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy deyrnas.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 20