22. Atebodd Iesu, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi i'w yfed?” “Gallwn,” meddent.
23. Dywedodd wrthynt, “Cewch yfed fy nghwpan i, ond eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i roi hynny; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer gan fy Nhad.”
24. Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth y ddau frawd.
25. Galwodd Iesu hwy ato ac meddai, “Gwyddoch fod llywodraethwyr y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr yn dangos eu hawdurdod drostynt.
26. Ond nid felly y mae i fod yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi,
27. a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i chwi,
28. fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”
29. Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef.
30. Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”
31. Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”
32. Safodd Iesu, a'u galw a dweud, “Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?”
33. Meddent hwy wrtho, “Syr, mae arnom eisiau i'n llygaid gael eu hagor.”
34. Tosturiodd Iesu wrthynt a chyffyrddodd â'u llygaid, a chawsant eu golwg yn ôl yn y fan, a chanlynasant ef.