Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 20:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ a aeth allan gyda'r bore bach i gyflogi gweithwyr i'w winllan.

2. Cytunodd â'r gweithwyr am dâl o un darn arian y dydd ac anfonodd hwy i'w winllan.

3. Aeth allan eilwaith tua naw o'r gloch y bore, a gwelodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnad.

4. Dywedodd wrthynt hwythau, ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan, ac fe dalaf i chwi beth bynnag fydd yn deg’;

5. ac aethant yno. Yna fe aeth allan eto tua chanol dydd, a thua thri o'r gloch y prynhawn, a gwneud fel o'r blaen.

6. Tua phump o'r gloch aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyll yno, ac meddai wrthynt, ‘Pam yr ydych yn sefyll yma drwy'r dydd yn segur?’

7. ‘Am na chyflogodd neb ni,’ oedd eu hateb. ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan,’ meddai ef.

8. Gyda'r nos dyma berchen y winllan yn dweud wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw'r gweithwyr, a thâl eu cyflog iddynt, gan ddechrau gyda'r rhai diwethaf a dibennu gyda'r cyntaf.’

9. Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un.

10. A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd.

11. Ac wedi eu cael dechreusant rwgnach yn erbyn y perchen tŷ

12. gan ddweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal â ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.’

13. Ond atebodd y meistr: ‘Gyfaill,’ meddai wrth un ohonynt, ‘nid wyf yn gwneud cam â thi. Onid am un darn arian y cytunaist â mi?

14. Cymer yr hyn sydd i ti a dos ymaith. Rwy'n dewis rhoi i'r olaf yma fel i tithau.

15. Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel rwy'n dewis â'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni?

16. Felly bydd y rhai olaf yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf.’ ”

17. Wrth fynd i fyny i Jerwsalem cymerodd Iesu'r deuddeg disgybl ar wahân, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt,

18. “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth,

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 20