Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 2:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem

2. a holi, “Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.”

3. A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef.

4. Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni.

5. Eu hateb oedd, “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd:

6. “ ‘A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda,nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda,canys ohonot ti y daw allan arweinydda fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.’ ”

7. Yna galwodd Herod y seryddion yn ddirgel ato, a holodd hwy'n fanwl pa bryd yr oedd y seren wedi ymddangos.

8. Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, “Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a'i addoli.”

9. Wedi gwrando ar y brenin aethant ar eu taith, a dyma'r seren a welsent ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen hyd nes iddi ddod ac aros uwchlaw'r man lle'r oedd y plentyn.

10. A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben.

11. Daethant i'r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a'i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr.

12. Yna, ar ôl cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, aethant yn ôl i'w gwlad ar hyd ffordd arall.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 2