Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 18:22-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Meddai Iesu wrtho, “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith.

23. Am hynny y mae teyrnas nefoedd yn debyg i frenin a benderfynodd adolygu cyfrifon ei weision.

24. Dechreuodd ar y gwaith, a dygwyd ato was oedd yn ei ddyled o ddeng mil o godau o arian.

25. A chan na allai dalu gorchmynnodd ei feistr iddo gael ei werthu, ynghyd â'i wraig a'i blant a phopeth a feddai, er mwyn talu'r ddyled.

26. Syrthiodd y gwas ar ei liniau o flaen ei feistr a dweud, ‘Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf y cwbl iti.’

27. A thosturiodd meistr y gwas hwnnw wrtho; gollyngodd ef yn rhydd a maddau'r ddyled iddo.

28. Aeth y gwas hwnnw allan a daeth o hyd i un o'i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gant o ddarnau arian; ymaflodd ynddo gerfydd ei wddf gan ddweud, ‘Tâl dy ddyled.’

29. Syrthiodd ei gydwas i lawr a chrefodd arno, ‘Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf iti.’

30. Ond gwrthododd; yn hytrach fe aeth a'i fwrw i garchar hyd nes y talai'r ddyled.

31. Pan welodd ei gydweision beth oedd wedi digwydd, fe'u blinwyd yn fawr iawn, ac aethant ac adrodd yr holl hanes wrth eu meistr.

32. Yna galwodd ei feistr ef ato, ac meddai, ‘Y gwas drwg, fe faddeuais i yr holl ddyled honno i ti, am iti grefu arnaf.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 18