Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 18:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Galwodd Iesu blentyn ato, a'i osod yn eu canol hwy,

3. a dywedodd, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd.

4. Pwy bynnag, felly, fydd yn ei ddarostwng ei hun i fod fel y plentyn hwn, dyma'r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd.

5. A phwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i.

6. “Ond pwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo pe crogid maen melin mawr am ei wddf a'i foddi yn eigion y môr.

7. Gwae'r byd oherwydd achosion cwymp; y maent yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol am achos cwymp.

8. Os yw dy law neu dy droed yn achos cwymp i ti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus neu'n gloff, na chael dy daflu, a dwy law neu ddau droed gennyt, i'r tân tragwyddol.

9. Ac os yw dy lygad yn achos cwymp i ti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i dân uffern.

10. “Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o'r rhai bychain hyn; oherwydd rwy'n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 18