Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 17:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Atebodd yntau, “Bydd Elias yn dod ac yn adfer pob peth.

12. Ond rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, ond iddynt fethu ei adnabod, a gwneud iddo beth bynnag a fynnent; felly hefyd y mae Mab y Dyn yn mynd i ddioddef ar eu llaw.”

13. Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y bu'n sôn wrthynt.

14. Pan ddaethant at y dyrfa, daeth dyn at Iesu gan benlinio o'i flaen a dweud,

15. “Syr, tosturia wrth fy mab, oherwydd y mae'n dioddef o ffitiau ac yn dioddef yn enbyd, yn cwympo'n aml i'r tân ac yn aml i'r dŵr.

16. Deuthum ag ef at dy ddisgyblion di, ac ni allasant hwy ei iacháu.”

17. Atebodd Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef yma ataf fi.”

18. Ceryddodd Iesu y cythraul, ac aeth allan ohono, ac fe iachawyd y bachgen o'r munud hwnnw.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 17