Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 15:22-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. A dyma wraig oedd yn Gananëes o'r cyffiniau hynny yn dod ymlaen gan weiddi, “Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd.”

23. Ond nid atebodd ef un gair iddi. A daeth ei ddisgyblion ato a gofyn iddo, “Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae'n gweiddi ar ein hôl.”

24. Atebodd yntau, “Ni'm hanfonwyd at neb ond at ddefaid colledig tŷ Israel.”

25. Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, “Syr, helpa fi.”

26. Atebodd Iesu, “Nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.”

27. Dywedodd hithau, “Gwir, syr, ond y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o'r briwsion sy'n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.”

28. Yna atebodd Iesu hi, “Wraig, mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni.” Ac fe iachawyd ei merch o'r munud hwnnw.

29. Symudodd Iesu oddi yno ac aeth gerllaw Môr Galilea, ac i fyny'r mynydd. Eisteddodd yno,

30. a daeth tyrfaoedd mawr ato yn dwyn gyda hwy y cloff a'r dall, yr anafus a'r mud, a llawer eraill; gosodasant hwy wrth ei draed, ac iachaodd ef hwy,

31. er syndod i'r dyrfa wrth weld y mud yn llefaru, yr anafus yn holliach, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld; a rhoesant ogoniant i Dduw Israel.

32. Galwodd Iesu ei ddisgyblion ato, ac meddai, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac ni fynnaf eu hanfon ymaith ar eu cythlwng, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.”

33. Dywedodd y disgyblion wrtho, “O ble, mewn lle anial, y cawn ddigon o fara i fwydo tyrfa mor fawr?”

34. Gofynnodd Iesu iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau, “ac ychydig bysgod bychain.”

35. Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 15