Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 15:10-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deallwch.

11. Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun.”

12. Yna daeth ei ddisgyblion a dweud wrtho, “A wyddost fod y Phariseaid wedi eu tramgwyddo wrth glywed dy eiriau?”

13. Atebodd yntau, “Pob planhigyn na phlannodd fy Nhad nefol, fe'i diwreiddir.

14. Gadewch iddynt; arweinwyr dall i ddeillion ydynt. Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew.”

15. Dywedodd Pedr wrtho, “Eglura'r ddameg hon inni.”

16. Meddai Iesu, “A ydych chwithau'n dal mor ddiddeall?

17. Oni welwch fod popeth sy'n mynd i mewn i'r genau yn mynd i'r cylla ac yn cael ei yrru allan i'r geudy?

18. Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun.

19. Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu.

20. Dyma'r pethau sy'n halogi rhywun; ond bwyta â dwylo heb eu golchi, nid yw hynny'n halogi neb.”

21. Aeth Iesu allan oddi yno ac ymadawodd i barthau Tyrus a Sidon.

22. A dyma wraig oedd yn Gananëes o'r cyffiniau hynny yn dod ymlaen gan weiddi, “Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd.”

23. Ond nid atebodd ef un gair iddi. A daeth ei ddisgyblion ato a gofyn iddo, “Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae'n gweiddi ar ein hôl.”

24. Atebodd yntau, “Ni'm hanfonwyd at neb ond at ddefaid colledig tŷ Israel.”

25. Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, “Syr, helpa fi.”

26. Atebodd Iesu, “Nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 15