Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 15:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna daeth Phariseaid ac ysgrifenyddion o Jerwsalem at Iesu a dweud,

2. “Pam y mae dy ddisgyblion di yn troseddu yn erbyn traddodiad yr hynafiaid? Oherwydd nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fyddant yn bwyta'u bwyd.”

3. Atebodd yntau hwy, “A pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad?

4. Oherwydd dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’

5. Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”, ni chaiff anrhydeddu ei dad.’

6. Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi.

7. Ragrithwyr, da y proffwydodd Eseia amdanoch:

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 15