Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 13:38-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

38. Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg,

39. a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion.

40. Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser.

41. Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith,

42. a byddant yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.

43. Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.

44. “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw.

45. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych.

46. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.

47. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i rwyd a fwriwyd i'r môr ac a ddaliodd bysgod o bob math.

48. Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 13