Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 11:7-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?

8. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth.

9. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.

10. Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano:“ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen,i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’

11. “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chododd ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan Fedyddiwr; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas nefoedd yn fwy nag ef.

12. O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr y mae teyrnas nefoedd yn cael ei threisio, a threiswyr sy'n ei chipio hi.

13. Hyd at Ioan y proffwydodd yr holl broffwydi a'r Gyfraith;

14. ac os mynnwch dderbyn hynny, ef yw Elias sydd ar ddod.

15. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.

16. “Â phwy y cymharaf y genhedlaeth hon? Y mae'n debyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd:

17. “ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;canasom alarnad, ac nid wylasoch.’

18. “Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 11