2. Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion
3. a gofyn iddo, “Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?”
4. Ac atebodd Iesu hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld.
5. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
6. Gwyn ei fyd y sawl na fydd yn cwympo o'm hachos i.”
7. Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
8. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth.
9. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.
10. Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano:“ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen,i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’
11. “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chododd ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan Fedyddiwr; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas nefoedd yn fwy nag ef.
12. O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr y mae teyrnas nefoedd yn cael ei threisio, a threiswyr sy'n ei chipio hi.
13. Hyd at Ioan y proffwydodd yr holl broffwydi a'r Gyfraith;
14. ac os mynnwch dderbyn hynny, ef yw Elias sydd ar ddod.
15. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.
16. “Â phwy y cymharaf y genhedlaeth hon? Y mae'n debyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd:
17. “ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;canasom alarnad, ac nid wylasoch.’
18. “Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’
19. Daeth Mab y Dyn, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’ Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.”
20. Yna dechreuodd geryddu'r trefi lle y gwnaed y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am nad oeddent wedi edifarhau.
21. “Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm mewn sachliain a lludw.
22. Ond rwy'n dweud wrthych, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na chwi.