Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 11:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan orffennodd Iesu ddysgu ei ddeuddeg disgybl, symudodd oddi yno er mwyn dysgu a phregethu yn eu trefi hwy.

2. Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion

3. a gofyn iddo, “Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?”

4. Ac atebodd Iesu hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld.

5. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.

6. Gwyn ei fyd y sawl na fydd yn cwympo o'm hachos i.”

7. Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?

8. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth.

9. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 11