Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 10:22-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.

23. Pan erlidiant chwi mewn un dref, ffowch i un arall. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni fyddwch wedi cwblhau trefi Israel cyn dyfod Mab y Dyn.

24. “Nid yw disgybl yn well na'i athro na gwas yn well na'i feistr.

25. Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu?

26. “Peidiwch â'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.

27. Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai.

28. A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern.

29. Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad.

30. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo.

31. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.

32. “Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

33. Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

34. “Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf.

35. Oherwydd deuthum i rannu“ ‘dyn yn erbyn ei dad,a merch yn erbyn ei mam,a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;

36. a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun’.

37. “Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 10