1. Wedi galw ato ei ddeuddeg disgybl rhoddodd Iesu iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i'w bwrw allan, ac i iacháu pob afiechyd a phob llesgedd.
2. A dyma enwau'r deuddeg apostol: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd,
3. Philip a Bartholomeus, Thomas a Mathew'r casglwr trethi, Iago fab Alffeus, a Thadeus,
4. Simon y Selot, a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.
5. Y deuddeg hyn a anfonodd Iesu allan wedi rhoi'r gorchmynion yma iddynt: “Peidiwch â mynd i gyfeiriad y Cenhedloedd, a pheidiwch â mynd i mewn i un o drefi'r Samariaid.
6. Ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel.
7. Ac wrth fynd cyhoeddwch y genadwri: ‘Y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.’
8. Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl.
9. Peidiwch â chymryd aur nac arian na phres yn eich gwregys,
10. na chod i'r daith nac ail grys na sandalau na ffon. Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei fwyd.