Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:34-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Ond tewi a wnaethant, oherwydd ar y ffordd buont yn dadlau â'i gilydd pwy oedd y mwyaf.

35. Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, “Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb.”

36. A chymerodd blentyn, a'i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i'w freichiau, a dywedodd wrthynt,

37. “Pwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, nid myfi y mae'n ei dderbyn, ond yr hwn a'm hanfonodd i.”

38. Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni.”

39. Ond dywedodd Iesu, “Peidiwch â'i wahardd, oherwydd ni all neb sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i roi drygair imi yn fuan wedyn.

40. Y sawl nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae.

41. Oherwydd pwy bynnag a rydd gwpanaid o ddŵr i chwi i'w yfed o achos eich bod yn perthyn i'r Meseia, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.

42. “A phwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r môr â maen melin mawr ynghrog am ei wddf.

43. Os bydd dy law yn achos cwymp iti, tor hi ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus na mynd, a'r ddwy law gennyt, i uffern, i'r tân anniffoddadwy.

45. Ac os bydd dy droed yn achos cwymp iti, tor ef ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chael dy daflu, a'r ddau droed gennyt, i uffern.

47. Ac os bydd dy lygad yn achos cwymp iti, tyn ef allan; y mae'n well iti fynd i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i uffern,

48. lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9