Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Meddai hefyd wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.”

2. Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy,

3. ac aeth ei ddillad i ddisgleirio'n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu.

4. Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses; ymddiddan yr oeddent â Iesu.

5. A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.”

6. Oherwydd ni wyddai beth i'w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint.

7. A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a dyma lais o'r cwmwl, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno.”

8. Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy.

9. Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd rhoddodd orchymyn iddynt beidio â dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw.

10. Daliasant ar y gair, gan holi yn eu plith eu hunain beth oedd ystyr atgyfodi oddi wrth y meirw.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9