17. Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi'n ystyfnig?
18. A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed? Onid ydych yn cofio?
19. Pan dorrais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o dameidiau a godasoch?” Meddent wrtho, “Deuddeg.”
20. “Pan dorrais y saith i'r pedair mil, llond pa sawl cawell o dameidiau a godasoch?” “Saith,” meddent.
21. Ac meddai ef wrthynt, “Onid ydych eto'n deall?”
22. Daethant i Bethsaida. A dyma hwy'n dod â dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef.
23. Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, “A elli di weld rhywbeth?”
24. Edrychodd i fyny, ac meddai, “Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch.”
25. Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell.
26. Anfonodd ef adref, gan ddweud, “Paid â mynd i mewn i'r pentref.”