Hen Destament

Testament Newydd

Marc 7:8-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. “Yr ydych yn anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynol.”

9. Meddai hefyd wrthynt, “Rhai da ydych chwi am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain.

10. Oherwydd dywedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a, ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’

11. Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Corban (hynny yw, Offrwm i Dduw) yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”,’

12. ni adewch iddo mwyach wneud dim i'w dad neu i'w fam.

13. Yr ydych yn dirymu gair Duw trwy'r traddodiad a drosglwyddir gennych. Ac yr ydych yn gwneud llawer o bethau cyffelyb i hynny.”

14. Galwodd y dyrfa ato drachefn ac meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf bawb, a deallwch.

15. Nid oes dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan iddo yn gallu ei halogi; ond y pethau sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi.”

17. Ac wedi iddo fynd i'r tŷ oddi wrth y dyrfa, dechreuodd ei ddisgyblion ei holi am y ddameg.

18. Meddai yntau wrthynt, “A ydych chwithau hefyd yr un mor ddiddeall? Oni welwch na all dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan ei halogi,

19. oherwydd nid yw'n mynd i'w galon ond i'w gylla, ac yna y mae'n mynd allan i'r geudy?” Felly y cyhoeddodd ef yr holl fwydydd yn lân.

20. Ac meddai, “Yr hyn sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi.

21. Oherwydd o'r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio,

22. godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd;

23. o'r tu mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 7