Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:29-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. A phan glywodd ei ddisgyblion, daethant, a mynd â'i gorff ymaith a'i ddodi mewn bedd.

30. Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu.

31. A dywedodd wrthynt, “Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn.” Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta.

32. Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu.

33. Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen.

34. Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt.

35. Pan oedd hi eisoes wedi mynd yn hwyr ar y dydd daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr.

36. Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.”

37. Atebodd yntau hwy, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent wrtho, “A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?”

38. Meddai yntau wrthynt, “Pa sawl torth sydd gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedasant, “Pump, a dau bysgodyn.”

39. Gorchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt.

40. Ac eisteddasant yn rhesi, bob yn gant a hanner cant.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6