Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:13-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. ac yr oeddent yn bwrw allan gythreuliaid lawer, ac yn eneinio llawer o gleifion ag olew ac yn eu hiacháu.

14. Clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd yr oedd enw Iesu wedi dod yn hysbys. Yr oedd pobl yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef.”

15. Yr oedd eraill yn dweud, “Elias ydyw”; ac eraill wedyn, “Proffwyd yw, fel un o'r proffwydi gynt.”

16. Ond pan glywodd Herod, dywedodd, “Ioan, yr un y torrais i ei ben, sydd wedi ei gyfodi.”

17. Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi.

18. Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Nid yw'n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.”

19. Ac yr oedd Herodias yn dal dig wrtho ac yn dymuno ei ladd, ond ni allai,

20. oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gŵr cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai'n gwrando arno'n llawen, er ei fod, ar ôl gwrando, mewn penbleth fawr.

21. Daeth cyfle un diwrnod, pan wnaeth Herod wledd ar ei ben-blwydd i'w bendefigion a'i gadfridogion a gwŷr blaenllaw Galilea.

22. Daeth merch Herodias i mewn, a dawnsio a phlesio Herod a'i westeion. Dywedodd y brenin wrth yr eneth, “Gofyn imi am y peth a fynni, ac fe'i rhof iti.”

23. A gwnaeth lw difrifol iddi, “Beth bynnag a ofynni gennyf, rhof ef iti, hyd at hanner fy nheyrnas.”

24. Aeth allan a dywedodd wrth ei mam, “Am beth y caf ofyn?” Dywedodd hithau, “Pen Ioan Fedyddiwr.”

25. A brysiodd yr eneth ar unwaith i mewn at y brenin a gofyn, “Yr wyf am iti roi imi, y munud yma, ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl.”

26. Aeth y brenin yn drist iawn, ond oherwydd ei lw, ac oherwydd y gwesteion, penderfynodd beidio â thorri ei air iddi.

27. Ac yna anfonodd y brenin ddienyddiwr a gorchymyn iddo ddod â phen Ioan. Fe aeth hwnnw, a thorrodd ei ben ef yn y carchar,

28. a dod ag ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth; a rhoddodd yr eneth ef i'w mam.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6