Hen Destament

Testament Newydd

Marc 5:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Yr oedd hwn yn cartrefu ymhlith y beddau, ac ni allai neb mwyach ei rwymo hyd yn oed â chadwyn,

4. oherwydd yr oedd wedi cael ei rwymo'n fynych â llyffetheiriau ac â chadwynau, ond yr oedd y cadwynau wedi eu rhwygo ganddo a'r llyffetheiriau wedi eu dryllio; ac ni fedrai neb ei ddofi.

5. Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac ar y mynyddoedd, byddai'n gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig.

6. A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o'i flaen,

7. a gwaeddodd â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.”

8. Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, “Dos allan, ysbryd aflan, o'r dyn.”

9. A gofynnodd iddo, “Beth yw dy enw?” Meddai yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom.”

10. Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio â'u gyrru allan o'r wlad.

11. Yr oedd yno ar lethr y mynydd genfaint fawr o foch yn pori.

12. Ac ymbiliodd yr ysbrydion aflan arno, “Anfon ni i'r moch; gad i ni fynd i mewn iddynt hwy.”

13. Ac fe ganiataodd iddynt. Aeth yr ysbrydion aflan allan o'r dyn ac i mewn i'r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr, tua dwy fil ohonynt, a boddi yn y môr.

14. Ffodd bugeiliaid y moch ac adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad, a daeth y bobl i weld beth oedd wedi digwydd.

15. Daethant at Iesu a gweld y dyn, hwnnw yr oedd y lleng cythreuliaid wedi bod ynddo, yn eistedd â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 5