Hen Destament

Testament Newydd

Marc 5:19-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Ni adawodd iddo, ond meddai wrtho, “Dos adref at dy bobl dy hun a mynega iddynt gymaint y mae'r Arglwydd wedi ei wneud drosot, a'r modd y tosturiodd wrthyt.”

20. Aeth yntau ymaith a dechrau cyhoeddi yn y Decapolis gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto; ac yr oedd pawb yn rhyfeddu.

21. Wedi i Iesu groesi'n ôl yn y cwch i'r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y môr.

22. Daeth un o arweinwyr y synagog, o'r enw Jairus, a phan welodd ef syrthiodd wrth ei draed

23. ac ymbil yn daer arno: “Y mae fy merch fach,” meddai, “ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw.”

24. Ac aeth Iesu ymaith gydag ef.Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno.

25. Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd.

26. Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth.

27. Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell,

28. oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.”

29. A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 5