1. Dechreuodd ddysgu eto ar lan y môr. A daeth tyrfa mor fawr ynghyd ato nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch ar y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa ar y tir wrth ymyl y môr.
2. Yr oedd yn dysgu llawer iddynt ar ddamhegion, ac wrth eu dysgu meddai:
3. “Gwrandewch! Aeth heuwr allan i hau.
4. Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.
5. Syrthiodd peth arall ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear;
6. a phan gododd yr haul fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.
7. Syrthiodd peth arall ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'i dagu, ac ni roddodd ffrwyth.
8. A syrthiodd hadau eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr oeddent yn ffrwytho ac yn cnydio hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.”
9. Ac meddai, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”
10. Pan oedd wrtho'i hun, dechreuodd y rhai oedd o'i gwmpas gyda'r Deuddeg ei holi am y damhegion.
11. Ac meddai wrthynt, “I chwi y mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi ei rhoi; ond i'r rheini sydd oddi allan y mae popeth ar ddamhegion,
12. fel“ ‘er edrych ac edrych, na welant,ac er clywed a chlywed, na ddeallant,rhag iddynt droi'n ôl a derbyn maddeuant.’ ”
13. Ac meddai wrthynt, “Onid ydych yn deall y ddameg hon? Sut ynteu yr ydych yn mynd i ddeall yr holl ddamhegion?
14. Y mae'r heuwr yn hau y gair.
15. Dyma'r rhai ar hyd y llwybr lle'r heuir y gair: cyn gynted ag y clywant, daw Satan ar unwaith a chipio'r gair sydd wedi ei hau ynddynt.
16. A dyma'r rhai sy'n derbyn yr had ar dir creigiog: pan glywant hwy'r gair, derbyniant ef ar eu hunion yn llawen;
17. ond nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, a thros dro y maent yn para. Yna pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwympant ar unwaith.