Hen Destament

Testament Newydd

Marc 3:5-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach.

6. Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn â'r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i'w ladd.

7. Aeth Iesu ymaith gyda'i ddisgyblion i lan y môr, ac fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea.

8. Ac o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea a'r tu hwnt i'r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato, wedi iddynt glywed y fath bethau mawr yr oedd ef yn eu gwneud.

9. A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo rhag i'r dyrfa wasgu arno.

10. Oherwydd yr oedd wedi iacháu llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef.

11. Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, “Ti yw Mab Duw.”

12. A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio â'i wneud yn hysbys.

13. Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato.

14. Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu

15. ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid.

16. Felly y penododd y Deuddeg, ac ar Simon rhoes yr enw Pedr;

17. yna Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes arnynt hwy yr enw Boanerges, hynny yw, “Meibion y Daran”;

18. ac Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Selot,

19. a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.

20. Daeth i'r tŷ; a dyma'r dyrfa'n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed.

21. A phan glywodd ei deulu, aethant allan i'w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, “Y mae wedi colli arno'i hun.”

22. A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, “Y mae Beelsebwl ynddo”, a, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 3