Hen Destament

Testament Newydd

Marc 3:30-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Dywedodd hyn oherwydd iddynt ddweud, “Y mae ysbryd aflan ynddo.”

31. A daeth ei fam ef a'i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i'w alw.

32. Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd y tu allan yn dy geisio.”

33. Atebodd hwy, “Pwy yw fy mam i a'm brodyr?”

34. A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o'i gwmpas, dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i.

35. Pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 3