22. A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, “Y mae Beelsebwl ynddo”, a, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”
23. Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion: “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
24. Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll.
25. Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll.
26. Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno.
27. Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ'r un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf; wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef.
28. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, maddeuir popeth i blant y ddaear, eu pechodau a'u cableddau, beth bynnag fyddant;
29. ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant byth; y mae'n euog o bechod tragwyddol.”