Hen Destament

Testament Newydd

Marc 3:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Oherwydd yr oedd wedi iacháu llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef.

11. Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, “Ti yw Mab Duw.”

12. A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio â'i wneud yn hysbys.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 3