Hen Destament

Testament Newydd

Marc 3:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Aeth i mewn eto i'r synagog, ac yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo.

2. Ac yr oeddent â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn.

3. A dywedodd wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, “Saf yn y canol.”

4. Yna dywedodd wrthynt, “A yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?” Yr oeddent yn fud.

5. Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach.

6. Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn â'r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i'w ladd.

7. Aeth Iesu ymaith gyda'i ddisgyblion i lan y môr, ac fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea.

8. Ac o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea a'r tu hwnt i'r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato, wedi iddynt glywed y fath bethau mawr yr oedd ef yn eu gwneud.

9. A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo rhag i'r dyrfa wasgu arno.

10. Oherwydd yr oedd wedi iacháu llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef.

11. Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, “Ti yw Mab Duw.”

12. A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio â'i wneud yn hysbys.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 3